Arbenigwr mewn Cyfraith Gofal Iechyd ac Eiddo Masnachol yw Chris yn bennaf, gyda phrofiad eang o gynrychioli Deintyddion a Fferyllwyr wrth brynu a gwerthu busnesau ar draws Lloegr a Chymru.
Fel aelod o NASDAL (National Association of Dental Accountants & Lawyers), a thrwy ddefnyddio ei gysylltiadau, arbenigedd a phrofiad, mae Chris wedi adeiladu portffolio eang o gleientiaid Deintyddol, Fferyllwyr ac eraill o’r sector Gofal Iechyd ar draws Lloegr a Chymru. Cynorthwya ei dîm yn JCP i berchnogion busnes ddod at y canlyniad cyfreithiol cywir ynglŷn ag Eiddo, Cyllid a Chyflogaeth. Golyga profiad Chris ei fod yn deall y sialensiau sy’n wynebu ymarferwyr yn y sector Gofal Iechyd heddiw, ac ystyra JCP fod ei wybodaeth gyfreithiol o’r sector hyn heb ei ail yng Nghymru.
Mae Chris wedi cymryd sawl rôl arweiniol yn JCP, gan ddefnyddio ei brofiad i lwyddo adeiladu timoedd sy’n delio â buddiannau yn ymwneud â Gofal Iechyd ag Eiddo. Gan ddefnyddio ei wybodaeth fasnachol a’i gysylltiadau lleol, mae Chris yn awr yn gyd-gyfrifol am yr Adran Gwasanaethau Eiddo gyfan ar draws nifer o swyddfeydd.
Mae Chris yn dysgu Cymraeg.