Services
People
News and Events
Other
Blogs

The 'canny and unflappable' Matthew Owen heads up the clinical negligence offering at the firm and continues to provide 'outstanding' representation on behalf of clients suffering injuries of the utmost severity, including brain injuries.

Legal 500 2022 Edition

Mae Matthew wedi datblygu arbenigedd cydnabyddedig mewn cynorthwyo rhai sydd wedi dioddef esgeuluster meddygol. Yn ogystal â derbyn achosion wedi eu hatgyfeirio o Gyfreithwyr nad ydynt gyda’r arbenigedd gofynnol yn y maes yma, mae Matthew hefyd yn derbyn achosion wedi eu hatgyfeirio o fudiadau ac Elusennau amrywiol, sy’n dibynnu ar ei adnabyddiaeth o’r pwnc a’i enw da yn y maes.

Gall cymryd achos esgeuluster meddygol fod yn broses cymhleth a hir, a thra bod llawer Cyfreithiwr yn gallu cynnig gwasanaeth eithriadol mewn meysydd eraill, does ganddynt mo’r arbenigedd gofynnol, y wybodaeth, na’r adnoddau sydd gan Matthew ac aelodau eraill o’r Tîm. Yn aelod o Banel Arbenigol Esgeuluster Meddygol Cymdeithas y Gyfraith, mae Matthew wedi datblygu arbenigedd penodol mewn achosion difrifol yn ymwneud â niwed i linyn y cefn a llawdriniaeth fasgwlaidd.

Delia Matthew hefyd gydag achosion o anaf personol dros gleientiaid sydd wedi dioddef anaf trwy drosedd – adnabyddir yr achosion hyn fel rhai CICA, sef Yr Awdurdod Digolledu am Niweidiau Troseddol. Mae Matthew yn brofiadol mewn cynorthwyo cleientiaid sydd wedi dioddef anafiadau difrifol i’r pen/ymennydd, ac yn derbyn cyfarwyddiadau i weithredu ar ran Y Cyfreithiwr Swyddogol.

Cymera Matthew ei amser i esbonio’r broses o gymryd achos Esgeuluster Meddygol i’w gleientiaid, ac mae’n falch iawn o’r berthynas ofalgar, ddibynadwy ac ymroddedig mae’n adeiladu gyda’u gleientiaid dros y blynyddoedd mae’n gweithio gyda hwy. Mae’n cydnabod fod damwain difrifol neu achos o anaf personol yn adeg ysgytiol, ac fe wnaiff popeth o fewn ei allu i sicrhau fod ffydd gan ei gleientiaid ei fod yn gwarchod eu buddiannau, a bod eu gofynion oes yn cael eu hamddiffyn pan fo achos o anaf difrifol a thrychinebus neu esgeulustod.

Mae Matthew wedi ennill clod yn y Legal 500 am ei arbenigedd mewn Esgeuluster Meddygol, tra bod Chambers yn ei gymeradwyo fel unigolyn i’w nodi a bod ffynonellau'r farchnad yn ei adnabod fel un o’r cyfreithwyr y dylid mynd ato am Esgeuluster Meddygol yn Abertawe.

Mae Matthew yn rhugl yn y Gymraeg.

Matthew Owen
    • Matthew Owen

    • Director & Head of Medical Negligence
    • View profile
 

JCP Head Of Medical Negligence Cements His Position As A Business Owner

  • Posted

A Director at JCP Solicitors and Head of Medical Negligence, Matthew Owen has been made a Business Owner with the company. A Member of the Law Society Specialist Clinical Negligence Panel, Matthew’s specialism in serious cases involving brain injury...