Eiddo Deallusol
Os ydych yn unig fasnachwr, yn fusnes bach neu ganolig neu yn gorfforaeth fyd-eang, mae’n debygol y bydd eiddo deallusol yn rhan ganolog o’ch busnes. O restrau cwsmeriaid i batentau, mae eich eiddo deallusol yn arf hollbwysig a all, o’i ddefnyddio’n briodol, ychwanegu gwerth i’ch ffrydiau creu incwm.
Yn fras, mae eiddo deallusol yn cynnwys yr hawliau / asedau canlynol:
- Hawlfraint
- Nod masnach
- Patentau
- Dyluniadau
- Hawliau cronfa ddata
Yn ogystal â bod yn ymwybodol o'ch hawliau eich hun a sut i'w diogelu, mae angen i chi hefyd amddiffyn rhag honiadau o dorri hawliau trydydd parti. Mae angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o faterion diogelu data.
Gallwn eich tywys drwy'r broses o nodi a diogelu eich asedau eiddo deallusol mewnol a'ch helpu i amddiffyn eich busnes rhag bygythiadau trydydd parti allanol.
Mae ein tîm sydd â meddylfryd busnes yn arbenigwyr ym maes materion eiddo deallusol dadleuol ac annadleuol, felly beth am gysylltu â ni i weld sut y gallwn helpu?
To contact our expert Solicitors in South Wales, please choose one of our local offices:
If there is not a local office to you, contact us on 03333 208644 as we are happy to arrange telephone and video meetings where appropriate. You can also email hello@jcpsolicitors.co.uk, or speak to a member of our team on .