Herio Ewyllys Neu Ymddiriedolaeth banner

Eich Llywio Trwy Anghydfodau a Diogelu eich Buddiannau

Home / Cymraeg / Herio Ewyllys Neu Ymddiriedolaeth

Herio Ewyllys Neu Ymddiriedolaeth

Mae anghydfodau sy’n codi yn dilyn marwolaeth perthynas yn aml yn boenus a chymhleth, ac yn codi ar adeg pan fo pawb o dan deimlad. Ni yw un o’r ychydig gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru sydd â’r arbenigedd angenrheidiol i ymdrin ag anghydfodau o’r fath, ac rydym wedi sefydlu enw da yn y maes anodd hwn.

Pan fo person yn marw gan adael asedau ar ei ôl, mae potensial bob amser i anghydfod godi hyd yn oed os yw’r sawl sydd wedi marw wedi gadael Ewyllys. Gelwir hyn yn brofiant cynhennus.

Mae Richard Howells yn aelod o’r corff proffesiynol ACTAPS – y Gymdeithas Arbenigwyr mewn Ymddiriedolaethau a Phrofiant Cynhennus. Pa un a ydych yn hawlydd, yn ymddiriedolwr, yn fuddiolwr neu’n gynrychiolydd personol a beth bynnag fo’r amgylchiadau, mae’r arbenigedd proffesiynol a’r profiad gan ein Tîm Profiant Cynhennus i’ch tywys drwy’r broses hon.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod gan y tîm sy’n ymdrin â’ch achos flynyddoedd lawer o brofiad arbenigol mewn ymgyfreitha, a hynny mewn amrywiaeth o achosion gan gynnwys ymdrin â gwir berchnogaeth eiddo, esgeulustra wrth ddrafftio ewyllysiau, anghydfodau rhwng cynrychiolwyr personol a hawliadau sy’n herio dilysrwydd ewyllysiau, a cheisiadau i’r Llys Gwarchod,.

Mae ein harbenigedd yn cynnwys:

  • Hawliadau estopel perchnogaeth, gan gynnwys rhai yn ymdrin ag ystadau amaethyddol gwerth uchel
  • Anghydfodau rhwng cynrychiolwyr personol
  • Hawliadau yn herio dilysrwydd Ewyllysiau ar sail:
  1. Methiant i weithredu Ewyllys yn gywir
  2. Dylanwad gormodol
  3. Diffyg gwybodaeth a chymeradwyaeth
  4. Diffyg cymhwyster ewyllysiol
  5. Twyll a ffugiadau
  • Hawliadau am fudd ariannol mewn eiddo ystâd
  • Ceisiadau i’r Llys am arweiniad ar ddehongliad cymalau penodol o fewn Ewyllysiau lle mae’r termau yn aneglur
  • Hawliadau o dan Ddeddf Etifeddiaeth (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975 ble mae darpariaeth annigonol ar gyfer dibynnydd mewn Ewyllys neu pan nad oes ewyllys
  • Hawliadau ynglŷn â drafftio esgeulus neu weinyddu ystadau mewn modd esgeulus
  • Ceisiadau i apwyntio Dirprwyon, cadarnhau gallu meddyliol neu baratoi Ewyllys Statudol gan gynnwys gwasanaeth y Llys Gwarchod
  • Anghydfodau cymhleth ynglŷn ag Ymddiriedolaethau
  • Hawliadau Strong v Bird

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni’r canlyniad iawn i chi. Er nad yw’n bosibl bob amser, byddwn yn ceisio dod i gytundeb heb fynd i achos llys, gan geisio diogelu’r berthynas deuluol. Er hynny, os naellir cyflawni datrysiad heb achos llys, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich tîm yn cynnwys arbenigwyr y gallwch ddibynnu arnynt.

To contact our expert Solicitors in South Wales, please choose one of our local offices:

If there is not a local office to you, contact us on 03333 208644 as we are happy to arrange telephone and video meetings where appropriate. You can also email hello@jcpsolicitors.co.uk, or speak to a member of our team on .

Skip to content