Cyfraith Cyflogaeth Ar Gyfer Cyflogeion
Os ydych chi’n gyflogai mae gennych hawliau pendant o dan y gyfraith. Os ydych chi’n credu nad yw eich cyflogwr yn parchu’r hawliau hynny, gallwn ni eich helpu i gymryd camau i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg ac i sicrhau iawndal pan fo hynny’n briodol.
Mae ein cyfreithwyr cyfraith cyflogaeth yn arbenigwyr o ran trafod a defnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfod, ac felly gallwn fel arfer gyflawni canlyniad cadarnhaol heb yr angen am dribiwnlys cyflogaeth. Gall hyn arbed amser, arian a straen diangen i chi, yn ogystal â sicrhau cyn lleied o wrthdaro â phosibl.
Er hynny, pe byddai angen tribiwnlys cyflogaeth, mae gennym y profiad i’ch cynrychioli chi yn y ffordd orau bosibl, gan eich helpu i sicrhau’r canlyniad gorau sydd ar gael i chi.
Yn ogystal â helpu i ddatrys anghydfodau cyflogaeth, gallwn hefyd eich cynghori ynghylch amrywiaeth o faterion cyflogaeth annadleuol, gan gynnwys adolygu contractau cyflogaeth a chytundebau gwasanaeth cyfarwyddwyr, a thrafod pecynnau ymadael.
Mae gan ein cyfreithwyr cyflogaeth ddegawdau o brofiad, felly beth bynnag yw’r problemau yr ydych yn eu hwynebu, gallwn roi’r cyngor arbenigol sydd ei angen arnoch i gyflawni canlyniad cadarnhaol.
I siarad ag un o’n cyfreithwyr cyflogaeth arbenigol heddiw, cysylltwch â’ch swyddfa neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y dde i gael ymateb cyflym.
To contact our expert Solicitors in South Wales, please choose one of our local offices:
- Swansea
- Caerphilly
- Builth Wells
- Cardiff
- Carmarthen
- Cowbridge
- Haverfordwest
- Pontypridd
- Port Talbot
- St Davids
If there is not a local office to you, contact us on 03333 208644 as we are happy to arrange telephone and video meetings where appropriate. You can also email hello@jcpsolicitors.co.uk, or speak to a member of our team on .