Ein Gwasanaethau Gwledig
Mae gan sawl aelod o’n tîm fuddiannau ffermio ac amaethyddol y tu allan i’r gweithle. Rydym ni eisiau i chi fod yn ffyddiog ein bod yn deall y gymuned wledig, ei chryfderau a’i heriau yn llawn.
Gall ein Tîm Gwasanaethau Gwledig arbenigol, sydd wedi ei leoli yng Nghymru, eich cynorthwyo gydag ystod eang o wasanaethau cyfreithiol, pa un a ydych chi angen cymorth cyfreithiol â busnes amaethyddol, neu eich bod yn unigolyn y mae eich gofynion cyfreithiol yn cynnwys elfen amaethyddol neu wledig.
Mae’r Cwmni ar Banel yr NFU dros ardal de a gorllewin Cymru ers 2008, ac rydym hefyd yn cynrychioli aelodau’r NFU ar amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol, a gallwn gynnig gostyngiad o 12.5% ar wasanaethau penodol i aelodau Ffermwyr a Thyfwyr yr NFU.
Rydym yn ymarferol ac yn realistig ein hymagwedd. Er mwyn i ni wneud ein gwaith yn iawn deallwn fod angen i ni fod yn gynghorwyr y gallwch ymddiried ynddynt, yn hytrach na dim ond dangos diddordeb dros dro. I wneud hyn mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dod i adnabod eich busnes chi yn drylwyr.
Mae’r tîm Gwasanaethau Gwledig yn JCP wedi’i asesu ar hyn o bryd fel cwmni Band 1 gan yr arweinlyfr cyfreithiol Chambers and Partners ac fel un o’r cwmnïau gorau yng Nghymru yn adran Amaeth ac Ystadau y Legal 500.
To contact our expert Solicitors in South Wales, please choose one of our local offices:
If there is not a local office to you, contact us on 03333 208644 as we are happy to arrange telephone and video meetings where appropriate. You can also email hello@jcpsolicitors.co.uk, or speak to a member of our team on .