Cymraeg banner

Ydych Chi'n Siarad Cymraeg?

Home / Cymraeg

Ein Hadduned O Ran Y Gymraeg

Yng nghwmni Cyfreithwyr JCP rydym yn ymfalchïo yn y Gymraeg. Credwn ei bod yn cyfleu ymdeimlad o ymddiriedaeth.

Mae 18% o'n cydweithwyr yma yn JCP yn siarad Cymraeg ac mae cyfle i gyfathrebu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod ar gael i'n cleientiaid, pan fyddant yn dewis hynny, ers blynyddoedd lawer. Mae bob amser wedi bod yn ganolog i ethos JCP ein bod yn rhan annatod o'r cymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu, ac mae'r gallu i gyfathrebu â'n cleientiaid yn yr iaith y maen nhw fwyaf cartrefol ynddi yn allweddol i'r dull gweithredu hwn.

Dyma uchafbwyntiau ein gwasanaethau Cymraeg ar gyfer ein cleientiaid:

  • Gallwch siarad Cymraeg â chydweithwyr pan fyddwch chi'n eu gweld yn gwisgo'r bathodyn
  • Mae croeso i chi ysgrifennu atom yn Gymraeg neu Saesneg
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i drafod eich mater yn Gymraeg
  • Mae ein gwefan yn ddwyieithog
  • Bydd ein taflenni a'n nwyddau marchnata mwyaf poblogaidd ar gael yn Gymraeg
  • Mae recriwtio cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn fantais
  • Byddwn yn cefnogi digwyddiadau cymunedol lleol sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
  • Byddwn yn cynnal brecwast blynyddol ar gyfer ein cleientiaid corfforaethol sy'n siarad Cymraeg er mwyn annog y defnydd o'r Gymraeg mewn busnes

Rydym mor falch o fod y cwmni cyfreithiol cyntaf i dderbyn achrediad ffurfiol ar gyfer ein Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mawrth 2021.

Skip to content