Cyfreithwyr Cyllid Corfforaethol banner

Gwneud eich Busnes Chi yn Fusnes i Ni

Home / Cymraeg / Cyfreithwyr Cyllid Corfforaethol

Cyfreithwyr Cyllid Corfforaethol

Mae ein cyfreithwyr wedi gweithio’n eang gyda sefydliadau ecwiti preifat a chyfalafwyr menter, gan gynnwys endidau lleol megis Cyllid Cymru a UK Steel.

Rydym yn deall eu hanghenion a’r pwysau y gallant ei roi ar dimau rheoli, cwmnïau a busnesau. Manteisiwn ar y profiad hwn ar gyfer pob trafodiad a wnawn ac mae ein dirnadaeth o’r byd masnachol yn sicrhau bod y broses yn hawdd ei deall a’i chwblhau.

Rydym hefyd wedi ymdrin â nifer o drafodiadau ar ran timau rheoli, gan dywys ein cleientiaid trwy gymhlethdodau cytundebau buddsoddi, strwythurau ecwiti, a threfniadau ariannu.

Rydym yn dod ag agwedd arloesol i’r cytundeb a byddwn yn eich cynorthwyo â’ch twf, eich tîm a’ch dyfodol. Mae ein hamrywiaeth o gysylltiadau ariannol yn ein rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i’ch cynghori ar ba un a yw cyfalaf menter yn briodol ar eich cyfer chi a’ch busnes ac, os ydyw, ar ba delerau.

To contact our expert Solicitors in South Wales, please choose one of our local offices:

If there is not a local office to you, contact us on 03333 208644 as we are happy to arrange telephone and video meetings where appropriate. You can also email hello@jcpsolicitors.co.uk, or speak to a member of our team on .

Skip to content