Hawliadau Yn Erbyn Gweithwyr Proffesiynol
Rydym i gyd yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol i ymdrin â materion sydd y tu hwnt i’n harbenigedd ein hunain. Pan fyddant yn gwneud camgymeriad, gall y canlyniadau fod yn drychinebus yn ariannol.
Mae gan dîm hawliadau atebolrwydd proffesiynol JCP flynyddoedd lawer o brofiad o gynrychioli cleientiaid unigol, busnesau a sefydliadau ariannol yn llwyddiannus mewn hawliadau sy'n ymwneud â phob math o weithwyr proffesiynol, er enghraifft:-
Enghreifftiau o hawliadau ar gyfer cleientiaid a busnesau unigol
Hawliadau yn erbyn Cyfreithwyr
- Methiant i roi gwybod am ddiffygion mewn teitlau eiddo
- Cyngor gwael ynghylch gwerthu busnes
- Ewyllysiau a baratowyd yn anghywir
- Colli terfynau amser llys neu ddyddiadau cyfyngu
- Setliad rhy isel ar gyfer hawliadau anafiadau
- Camymddwyn neu dwyll proffesiynol
Hawliadau yn erbyn Syrfewyr
- Adroddiadau arolwg gwallus
- Prisiadau esgeulus
Hawliadau yn erbyn Ymgynghorwyr Ariannol
- Trefnu neu gynghori ar gynnyrch anaddas ar gyfer buddsoddiad
Hawliadau yn erbyn Cyfrifwyr
- Cyngor treth anghywir
- Ffeilio hysbysiadau neu ffurflenni yn hwyr
Gallwch ddarllen astudiaethau achos manylach gan ein tîm lle maent wedi gweithredu ar ran unigolion neu fusnesau yma.
Hawliadau ar ran Benthycwyr a Sefydliadau Ariannol
Os ydych yn fenthyciwr neu'n sefydliad ariannol gallwch ddarllen mwy am ein gwasanaethau i fenthycwyr yma .
Os oes gennych achos yr hoffech ei drafod, cysylltwch ag aelod o’n tîm arbenigol ar 03333 208644 neu e-bostiwch hello@jcpsolicitors.co.uk
Er mwyn siarad gyda’n Cyfreithwyr Anghydfodau Eiddo arbenigol yn Ne Cymru, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol. Mae gennym swyddfeydd yn y lleoliadau canlynol:
Os nad oes swyddfa’n lleol i chi, cysylltwch â ni ar 03333 208644 gan ein bod yn hapus i drefnu galwad ffôn neu gyfarfod fideo pan yn addas. Fel arall, cysylltwch â ni ar hello@jcpsolicitors.co.uk, llenwch ein ffurflen ymholi, neu defnyddiwch ein hadnodd sgwrsio ar y we.