Cyfreithwyr Ewyllysiau a Phrofiant banner

Cynllunio Ymlaen Llaw ar gyfer Heneiddio

Home / Cymraeg / Cyfreithwyr Ewyllysiau a Phrofiant

Cyfreithwyr Ewyllysiau a Phrofiant

Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud yn ystod ein hoes i sicrhau y bydd ein dymuniadau yn cael eu gwireddu ac y bydd ein teuluoedd wedi eu diogelu ar ôl i ni farw.

Mae pethau y gallwn ni eu gwneud hefyd i baratoi ar gyfer henaint, neu gynllunio ar gyfer adeg pan efallai na fyddwn yn gallu gwneud penderfyniadau drosom ein hunain mwyach. Er enghraifft, mae’n bosibl, tra eich bod yn iach ac yn ffit, i chi benodi pobl i reoli eich materion ariannol pe na byddech yn gallu gwneud hynny eich hunan oherwydd anaf neu salwch.

Gall ein tîm eich cynorthwyo chi a’ch teulu â’r canlynol:

  • Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau
  • Atwrneiaeth Arhosol
  • Herio neu Ymdaeru Ewyllys neu Ymddiriedolaeth
  • Y Llys Gwarchod
  • Profiant
  • Cynllunio Etifeddiaeth ac Ystadau
  • Haen Cyfradd Sero i Breswylfeydd

Mae gwneud Ewyllys syml yn bwysig ac yn rhoi tawelwch meddwl. Er hynny ceir llawer o agweddau mwy cymhleth ar gynllunio am oes y gall ein tîm gynorthwyo â nhw hefyd. Hoffem ni fod yn gyfreithwyr i chi am weddill eich oes, felly dywedwch wrthym beth yw eich dymuniadau, a gall ein harbenigwyr eich tywys trwy’r meysydd cymhleth y mae angen i chi eu hystyried.

Gall marwolaeth anwylyd arwain at anghydfod teuluol yn aml. Gall yr anghydfodau fod yn gymhleth a pheri gofid ar adeg emosiynol. Rydym ni yn un o’r ychydig gwmnïau yng Nghymru sydd â’r arbenigedd angenrheidiol i ymdrin ag anghydfodau o’r fath, ac mae gennym ni enw da sydd wedi ei hen sefydlu yn y maes cymhleth hwn. Pan fo rhywun yn marw ac yn gadael asedau ar ei ôl, ceir potensial bob amser y bydd anghydfod yn codi hyd yn oed os yw wedi gadael Ewyllys. Adnabyddir hyn fel profiant cynhennus.

Mae nifer o aelodau o’n tîm wedi dilyn hyfforddiant Ffrindiau Dementia, felly os ydych chi neu anwylyd yn pryderu am unrhyw beth yn ymwneud â’ch cyfarfod cyntaf â ni, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud y broses yn rhwydd ac mor ddibryder â phosib.

To contact our expert Solicitors in South Wales, please choose one of our local offices:

If there is not a local office to you, contact us on 03333 208644 as we are happy to arrange telephone and video meetings where appropriate. You can also email hello@jcpsolicitors.co.uk, or speak to a member of our team on .

Skip to content