Mae profiad ac arbenigedd Rhian yn y maes o eiddo preswyl yn cael ei groesawi gan gleientiaid a chydweithwyr fel ei gilydd. Cymra Rhian ran flaenllaw mewn marchnata o fewn y cwmni ac mae’n ddolen gyswllt i sawl asiant gwerthu tai.
Gwnaeth Rhian radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe gan raddio yn 2003.
Ar ôl cymryd blwyddyn i ffwrdd o’i gyrfa, ymunodd Rhian â JCP yn 2004 fel paragyfreithiwr ail-forgeisi, gan ddyrchafu’n gyflym i fod yn aelod o’r tîm Trawsgludo, yn gyntaf fel cynorthwywraig, ac yna datblygu a rhedeg ei hachosion ei hun erbyn 2006.
Wedi penderfynu yr hoffai barhau gyda’i gyrfa yn y gyfraith cynigodd JCP ariannu ei chwrs i fod yn Weithredydd Cyfreithiol. Gan ddefnyddio ei sgiliau trefnu gallodd astudio yn y cartref tra’n gweithio llawn amser a magu teulu. Cwblhaodd ei chwrs ILEX yn 2010 gan gymhwyso fel Gweithredydd Cyfreithiol llawn.
Mae Rhian yn mwynhau gwersylla gyda’i theulu, treulio amser gyda ffrindiau, bwyta allan a cherdded ei chi, Steve. Mae Rhian yn siarad Cymraeg.