Mae Myria yn aelod o’r Tîm Practis Gwledig ac yn cynorthwyo gyda phob agwedd o waith amaethyddol, boed cynhennus neu di-gynnen
Bu Myria yn gweithio mewn Practis Preifat ers sawl blwyddyn, wedi gweithio i gwmnïau lleol yng Nghaerfyrddin, Morris Roberts ac Ungoed Thomas and King, gan gael profiad mewn pob agwedd o Bractis Preifat gan gynnwys Ewyllysiau, Profiant ac Eiddo.
Tra’n gweithio’n llawn amser a chodi teulu ifanc bu Myria yn astudio yn ei hamser sbâr gan gymhwyso fel Cymrawd Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac yna mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, lle cwblhaodd Diploma Graddedig mewn Cyfraith a’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, a chymhwyso fel Cyfreithwraig yn 2014.
Fel gwraig ffarm mae gan Myria ddiddordeb byw mewn amaeth, ac yn ddiweddar caeth Tystysgrif Ôl-Radd mewn Cyfraith Amaethyddol o Brifysgol Harper Adams.
Mae Myria hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol.
Yn ei hamser hamdden mwynha Myria dreulio amser gyda’i gŵr a thri o blant, a helpu ar y fferm deuluol.
Ymfalchïa Myria yn ei hagwedd cyfeillgar ond proffesiynol gyda chleientiaid ac mae’n rhugl yn y Gymraeg.