Services
People
News and Events
Other
Blogs

Wedi cymhwyso ym 1993 bu Meinir yn gweithio am beth amser yn Llundain. Yn 2001 dychwelodd i Abertawe ac ymuno â Chyfreithwyr JCP gan arbenigo mewn Esgeuluster Meddygol. Wrth i JCP ehangu i mewn i Orllewin Cymru fe ddaeth yn amlwg bod angen creu rôl benodol i sicrhau a chefnogi budd y cleientiaid Cymraeg eu hiaith, boed newydd neu’n bodoli’n barod, a hefyd i gefnogi’r nifer cynyddol o staff Cymreig yn JCP. Yn 2012 felly apwyntiwyd Meinir yn Gydlynydd yr Iaith Cymraeg ar draws JCP. 

Mae’r rôl yn cynnwys creu a monitro Polisi Cymraeg y cwmni gyda’r nod o hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael i gleientiaid a chyfoethogi’r cyswllt gyda’r cyhoedd. Mae Meinir yn cydlynu cyfieithu dogfennau a llenyddiaeth, a chydsyniad y cwmni gyda’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ym mis Awst 2014 cafodd JCP amser llwyddiannus yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr gan gymryd stondin yno i ddathlu agor swyddfeydd yng Nghaerfyrddin.

Mae Meinir wedi ymddangos ar radio ac ar deledu yn hybu defnydd o’r Gymraeg mewn busnes ac mae’n hapus i ddelio gyda materion yn ffurfiol neu’n anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Meinir hefyd yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas Gyfreithiol Abertawe a’r Cylch ac yn helpu trefnu a chynllunio digwyddiadau lleol.

Meinir Davies
    • Meinir Davies

    • Consultant - Welsh Language Co-ordinator
    • View profile
 

Welsh Language Website Launched By JCP Solicitors

  • Posted

JCP Solicitors is delighted to unveil its new Welsh language website, which can be found at http://www.jcpsolicitors.cymru/ . On the website, visitors will find all the information they need to interact with the company in Welsh, and it will be kept...