Services
People
News and Events
Other
Blogs

Mae Rebecca yn Gyfreithwraig Gyswllt yn ein Tîm Ymgyfreitha Busnes. Mae’n cynghori mentrau bychan a chanolig mewn sawl diwydiant sydd ag anghydfodau masnachol neu gytundebol, ac mae’n ymgymryd â gwaith casglu dyledion dros ei chleientiaid busnes. Cynorthwya hefyd gyda materion Cyfraith Chwaraeon, ac mae’n cefnogi’r tîm gyda sicrhau canlyniadau i gleientiaid gydag anghydfodau adeiladu.

Mae amser yn arian i’n cleientiaid busnes, ac i’r perwyl hwn, darpara Rebecca gyngor sy’n glir ac ymarferol. Oherwydd ei phrofiad eang mewn cychwyn ac amddiffyn achosion, mae Rebecca wedi datblygu agwedd rhagweithiol wrth ddelio gydag anghydfodau cynhennus, a gweithia gyda’i chleientiaid i ddatblygu strategaethau realistig ac effeithlon.

Mewn marchnadoedd cynyddol gystadleuol, mae Rebecca hefyd yn cynghori cleientiaid ar sut mae diogelu eu heiddo deallusol hanfodol. Mae’n adnabod y materion cymhleth a thechnegol sydd yn aml ynghlwm ag anghydfodau eiddo deallusol , a gall gynrychioli cleientiaid mewn anghydfodau sy’n codi o droseddau yn erbyn Hawlfraint, Nod Masnachu, Patentau, a Chynlluniau.

Yn raddedig o Goleg Cyfraith Prifysgol Caerdydd, bu Rebecca yn aelod o dîm ymgyfreitha prysur mewn cwmni mawr o Gymru cyn ymuno â JCP fel cyfreithwraig dan hyfforddiant yn 2014. Cymhwysodd gan ymuno a’r Tîm Ymgyfreitha Busnes yn 2016.Yn rhugl yn y Gymraeg mae Rebecca yn hapus i gyfathrebu trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’n mwynhau comedi fyw a cherddoriaeth, cerdded mynyddoedd a phêl-droed.