Astudiodd Eleri radd mewn Cyfraith gyda Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio gyda 2:1. Aeth ymlaen i gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe gyda rhagoriaeth.
Cyn gweithio gyda Chyfreithwyr JCP, ymgymerodd Eleri mewn sawl lleoliad gwaith mewn ystod o sectorau.
Tra ym Mhrifysgol Abertawe, sicrhaodd Leoliad Gwaith ar Ddydd Gwener gyda chwmni cyfreithwyr lleol yn arbenigo mewn cyfraith deuluol.
Cychwynnodd Eleri ei gyrfa gyda Chyfreithwyr JCP ym mis Medi 2012 gan ymuno gyda’r adran ail-forgeisi prysur fel Paragyfreithwraig. Caeth ddyrchafiad i fod yn Uwch Baragyfreithwraig yng Ngorffennaf 2013 ble y daeth yn bwynt cyswllt i’r tîm am ymholiadau cyfreithiol ac yn gyfrifol am y cysylltiad gyda chleientiaid masnachol. Teimla Eleri ei bod wedi cael profiad amhrisiadwy yn yr adran a fydd yn ei chynorthwyo i symud ymlaen gyda’i gyrfa.
Bydd Eleri yn dechrau contract hyfforddi fel cyfreithwraig yn adran Eiddo Masnachol y cwmni yng Nghaerfyrddin ym mis Medi ac mae’n edrych ymlaen at y sialensiau o’i blaen.
Y tu allan i’r gwaith mae Eleri yn mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, chwarae badminton a theithio.
Mae Eleri yn rhugl yn y Gymraeg.